P-04-637 Diogelu Dyfodol Cerddoriaeth Ieuenctid yng Nghymru
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ddiogelu addysg gerdd mewn ysgolion ac yn benodol i:
•Adfer yr arfer o neilltuo a gwarchod cyllidebau canolog ar gyfer addysg offerynnol proffesiynol mewn ysgolion;
•Gweithredu strategaeth genedlaethol i wrthdroi’r dirywiad yng ngwasanaeth Cerddoriaeth Ieuenctid yng Nghymru;
•Cynnig hawl i blant a phobl ifanc Cymru i gael addysg sy’n datblygu eu personoliaethau, doniau a galluoedd unigryw yn llawn.
Prif
ddeisebydd: The
Friends of Bridgend Youth Music
Ystyriwyd gan y Pwyllgor am y tro cyntaf: 16 Mehefin
Nifer y deisebwyr:1,363 llofnod ar lein a 738 llofnod papur = cyfanswm 2,101 llofnod